Tuesday, 1 May 2012

Y problem heb ei ddatrys

I barhau gyda'r hyn yr oeddwn yn dweud yma...

Y problem sydd 'da fi yw dau fath o ddifyg: diffyg ffrindiau a diffyg arian/modd ennill arian (h.y. swydd). Does dim 'da fi un neu'r llall yn y Gymraeg. Yn y bôn, dyma pam dwi mor anhapus, mor chwerw yn erbyn Cymru a'i hiaith. Des i yma llawn gobeithion a chael fy siomi cymaint wedyn; dwi'n teimlo fy arwahanu (ar y cyfan). Mae'n hen stori, dwi'n gwybod.

Y peth yw, trwy'r amser dwi eisiau rhoi i'r iaith gyfle arall, fel petai. Dwi eisiau ceisio eto. Ond dwi wedi blino cymaint ar geisio a methu. Ceisio a methu, ceisio a methu. Mae chwe blynedd o fethu yn sbel hir iawn. 

Ces i fy atgoffa ddoe o'm awydd ffeindio lle ym mreichiau'r gymuned Cymraeg ei hiaith ar ôl mynd ar Radio Cymru a mwynhau dros ben. Roedd y profiad hynny -- yn siarad a chwerthin gyda Daf Du a Sarra Elgan -- yr un mwyaf plesurus imi ei gael yn y Gymraeg ers blynyddoedd. Blynyddoedd. Ceisiwch dychmygu hynny: blynyddoedd heb chwerthin, blynyddoedd heb fwynhau. Blynyddoedd. A fyddwch chi wedi dal ati mor hir? Tasech chi'n byw rhywle lle nad oes 'da chi cysylltiad teulu, na ffrindiau, na swydd, a fyddwch chi wir yn dal ati mor hir? Ceisio a methu, ceisio a methu. Pam? I be?

Dwi'n chwerw. Dwi'n unhapus. Yn y bon, mae'r ddau ddiffyg sydd ar fai. Hoffwn i roi cyfle arall i bopeth, ond sut i roi i'r iaith gyfle teg? Sut i roi iddi gyfle lle nad yw hi'n debyg i fethu fel pob tro cynt?

Rhai pethau i'w hystyried:

1) Dwi ddim yn ddysgwr bellach. Seriously. Stop with that fucking noise. A dweud y gwir, mae'r awgrymiadau hyn yn rhan o'r rheswm 'mod i'n teimlo fy arwahanu. Mae'n sarhaus ar un lefel, fel petai person yn dweud nad ydw i'n cyfrif fel aelod "llawn" y gymuned Gymraeg; dwi'n teimlo hynny, dwi'n teimlo awgrym y dylwn i fodloni ar gael lle eilaidd, ac mae'n digio fi. Wrth gwrs, fel tiwtor Cymraeg i oedolion, dwi'n ymwybodol o gyfleoedd i ddysgwyr, a dwi'n cefnogi'r digwyddiadau hyn o dr i dro. Ond nid dysgwr ydw i bellach; dwi ddim eisiau eistedd yno, yn gwrando ar rywun sy'n filltiroedd i ffwrdd yn nhermau diddordebau, profiadau, ideoleg, oedran ac ati, dim ond er mwyn siarad yr iaith. Dwi eisiau defnyddio'r iaith -- i drafod, i sgwrsio. Dwi eisiau'r iaith i fod yn fyw yn fy mywyd i, yn hytrach na ryw hobi. 
Dychmygwch fod chi'n berson sydd wedi dysgu sut i ganu'r gitar. Ac yn y senario 'ma, rhywsut, cawsoch chi eich dysgu ymhlith torf o bobl sydd wrth eu boddau gyda Meic Stevens. A dyna chi, wrth ddysgu, yn meddwl: "Wel, dwi ddim yn ffan o Meic Stevens. Dwi ddim yn ffan o'i arddull o gwbl, a dweud y gwir. Ond dwi'n gwybod bod llawer mwy o gerddoriaeth yn y byd mawr, ac mae cord yn gord, felly s'dim ots pa fath o gerddoriaeth bod pobl yma'n ei hoffi -- dwi'n dysgu." Ond dyma chi, 12 blynedd wedyn, ar ôl meistroli'r gitar i safon uwch, yn dweud, "Hoffwn i ymuno â band," a phawb yn dweud wrthoch chi: "Wel, mae grŵp Canmol Meic Stevens yn cwrdd unwaith y mis yn y Mochyn Du."

2) Dwi ddim am symud rhywle arall. Dim arian, dim swydd, cofiwch. Alla' ddim symud heb y pethau 'na, hyd yn oed taswn i eisiau. Os oes 'da chi swydd dda iawn i'w chynnig, OK, dwi'n gwrando. Ond rhaid iddi dalu digon i fi a fy nghariad fyw arni.
Mae'n blino fi bod pobl sydd mor gartrefol hefyd mor gyflym i ddweud wrth rywun arall y dylai fe symud. Pa dystioliaeth sy'n cefnogi'r syniad 'ma, tybed? Ydych chi'n gallu enwi person sydd wedi dysgu Cymraeg, darganfod nad oes croeso iddo yn ei gymuned, symud rhywle arall a chael bywyd ei freuddwydion? Neu, ydych chi'n ddim ond yn ddyfalu? Mae symud fi a fy nghariad rhywle arall ar addewid tybiedig yn cryn dipyn o risg. Cofiwch mod i wedi symud unwaith o'r blaen ar 'gryfder' yr addewid 'na: symudais i Gymru. Ac aeth fy ngwraig. Felly, dwi'n anfodlon iawn gorfodi Jenn i symud rhywle arall, yn enwedig ar addewid aneglur o gael fy nghroeso Rhywle Arall.
Hefyd, ers imi gwrdd â Jenn dwi wedi bod yn datblygu (yn araf, araf) ffrindiau Saesneg eu hiaith yma yng Nghaerdydd. Faswn i ddim (ac afraid dweud na fasai Jenn) eisiau eu gadael nhw er mwyn hela ar ôl syniad afrealistig, dychmygol, o gael croeso Rhywle Arall.
Ac os mae Rhywle Arall mor wych, pam bod miloedd ar filoedd o Gymry Cymraeg yn llifo i mewn i Gaerdydd? Os nad oes lle iddyn nhw, beth yw'r rhesymeg y tu ôl dadlau y dylwn i fynd yno?

3) Dwi ddim am newid mewn ffordd sylfaenol. Yn aml iawn, bydd pobl yn awgrymu ymuno â chapel, neu rywbeth tebyg. Dwi'n deall yr awgrym ond, mae'n un sydd wedi cael ei adeiladu ar dir ansefydlog. Ohwerwydd mae awgrym o newid ymddygiad hefyd. Dwi ddim yn gapelwr yn fy mywyd Saesneg -- a dweud y gwir, ceisiwn i hynny sawl gwaith yn fy arddegau a'm dauddegau a methu pob tro -- felly basai mynd i gapel yn gofyn imi newid mewn ffordd sylfaenol. Dych chi'n dweud wrthyf: er mwyn i ti ffeindio lle, Chris, mae rhaid i ti newid ti dy hunan yn dy fon. Na, dim diolch. Dyw Cymraeg ddim mor arbennig imi fy mod yn fodlon ceisio ffugio mod i'n berson gwahanol.
Mae'r awgrym i ymuno â chor ychydig yn debyg. Er, roeddwn i'n aelod cor am sbel fach, fach, ac, ie, roeddwn yn mwynhau tipyn. Ond dwi ddim yn berson sy'n mwynhau canu cymaint. Hefyd, bu rhaid i fi roi'r gorau i'r cor er mwyn dysgu Cymraeg i oediolion (mae dosbarth 'da fi yng Nglyn Ebwy ar yr un nosau ymarfer cor), a doedd dim digon o arian 'da fi i fforddio teithiau i berfformio na dillad neis i'w wisgo mewn perfformiad.

4) Ydw, dwi wedi chwilio am swydd yn y BBC, S4C, ac ati. Am ryw reswm, pan dwi'n dweud nad oes swydd 'da fi, mae tuedd i dybio nad ydw i'n chwilio. Anghywir. Yr ydw i yn chwilio. Gwnaf i gais am ddwy swydd yr wythnos fel arfer, mwy nag hynny weithiau. Edrychaf ar wefannau BBC, Boomerang, Tinopolis, S4C, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen, trosodd a throsodd a throsodd. Dwi'n werthfawrogol iawn pryd bynnag bydd person yn tynnu fy sylw at swydd ond, fel arfer, baswn i wedi gwneud cais amdani eisoes.

Mae'n broblem heb ei ddatrys. Ac weithiau dwi'n teimlo nad oes gyda phobl eraill eisiau imi ei ddatrys.

6 comments:

Emma Reese said...

A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn disgwyl gweld dy flog Cymraeg eto. Dw i ddim yn dilyn dy hanes diweddaraf gan fy mod i wedi cael fy siom fy hun. Syndod ydy nad ydy BBC Cymru, ayyb eisiau dy gyflogi; ti'n medru cyfrannu'n fawr at y cyfryngau Cymareg.

Chris Cope said...

Tybed beth oedd y peth i'ch siomi, Emma? Gobeithio nad ydw i wedi'ch siomi. Ond byddwn i'n deall tasai person yn teimlo bod nhw wedi cael llond bol ohono' i.

Emma Reese said...

Na na, ddim ynot ti ces i fy siomi ond rhywle eraill. Os ti'n mynd i ailgychwyn dy flog Cymraeg, mi wna i'w ddilyn.

Diane said...

Reit, dyma beth dw i wedi dysgu dros fy mywyd (tipyn bach yn hirach na dy rai di, ond wi ddim yn 'senior citizen,' chwaith): Mae ffeindio ffrindiau yn anodd i BAWB ar ol cwpla eu addysg nhw.

Y ffyrdd arferol o ddod o hyd iddyn nhw yw: (a) trwy ffrindiau/cariad (fel 'ti di gweud am ffeindio ffrindiau trwy Jenn); (b) trwy gwaith; (c) trwy gweithgareddau.

Ond erbyn i rywun yn oedolyn-go-iawn, fel arfer mae cyfrifoldebau gyda nhw, a dim llawer o amser (ar ol gwaith, er engraifft). Mae'n *arbennig" o anodd i dreulio amser gyda phobol newydd taswch chi'n byw mewn dinas yn hytrach na mewn tre/pentre, yn fy mhrofiad i (wi wedi wneud y ddau). Felly, so creu ffrindiau yn y gwaith yn arwain yn syth at greu ffrindiau y tu allan y swyddfa, yn enwedig mewn dinas.

Dw hynny ddim yn golygu y dylech chi symud; jyst gweud gwir fy mywyd ydw i.

Wi'n nabod pobl sy wedi dod yn agos at y cymuned Gymraeg ei hiaith yn eu ardaloedd nhw, drwy wneud pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw yn Eu Bywyd Cynt.

Mae'r Eisteddfod yn dy ardal i y tro 'ma. Ti'n hoffi llenyddiaeth. Mae Pabell Len. Mae'r Eisteddfod yn defnyddio gwirfoddolwyr. Jyst syniad.

Os newid yn mywyd wi'n moyn, wna i ofyn beth wi'n fodlon i newid.

Ifan Morgan Jones said...

Mae'n ddrwg gen i glywed am dy broblemau, Chris. Gobeithio y bydd pethau yn gwella i ti yn fuan.

Rydw i wedi symud i lawr i dde Cymru ers blynyddoedd a does gen i ddim llawer o ffrindiau fan hyn, tu hwnt i fy mhartner a'r plant! Mae fy ffrindiau i gyd yn y gogledd lle ces i fy magu, a pan ydw i eisiau clonc neu mynd allan am sesh rydw i'n tueddu i deithio i fyny i'w gweld nhw! Yn anffodus mae hynny bach yn anodd pan wyt ti'n byw mor ar ochor arall yr atlantic i dy deulu/ffrindiau.

Er diddordeb, a heb fod yn ansensitif gobeithio, ond pam wyt ti'n beio'r iaith Gymraeg am dy broblemau? Dw i'n gwybod dy fod ti i raddau wedi dy ddenu i Gymru gan yr iaith, ond nid yr iaith sy'n gyfrifol am ddiffyg swydd a ffrindau siawns? Wedi'r cwbwl mae na ddigonedd o swyddi a siaradwyr Saesneg yng Nghaerdydd hefyd.

Anonymous said...

Good for you, Chris, bringing attention to the way the word "learner" has come to mean second-class citizen. This word needs to become about as socially nice as the N or P word. You are right to wonder whether it is worth bothering with the Welsh but I think it is good you are. The reason you don't have any jobs from S4C etc is because you don't know anyone there - just how it is here. I think people who embark on Welsh courses are let down with some really awful lessons. I would definitely call you a speaker not a learner and you are functionally fluent but after a 4 year degree your standard of Welsh is not consistent with the standard you would have acheived had you be learning another language. That is largely because the Welsh that is taught to adults is not the Welsh that people really speak. But you, yourself are a teacher of Welsh. So you can change this around. You could start with getting rid of "O ble 'dych chi'n dod yn wreiddiol?" especially the "yn wreiddiol" in class. Which other language courses make this a feature of their syllabus?